P-05-825 Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan British Lung Foundation Cymru, ar ôl casglu 159 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb
Mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, mae
pobl yn anadlu lefelau llygredd aer sy’n anghyfreithlon ac
sy’n niweidiol i’w hiechyd. Mae plant ymysg y rheiny
sydd fwyaf diamddiffyn rhag llygredd aer. Mae eu hysgyfaint yn dal
i dyfu, a gall aer llygredig arafu twf eu hysgyfaint, a golygu eu
bod yn fwy tebygol o gael asthma, a phroblemau iechyd eraill, yn
nes ymlaen yn eu bywyd.
Yn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y BLF i awdurdodau lleol yn
2017, gwelwyd nad oedd 68 y cant o ymatebwyr (15 o 22) yn monitro
llygredd aer o fewn 10 metr o unrhyw un o’u hysgolion.
Yr ydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i
fynnu bod pob Awdurdod Lleol yn monitro ansawdd yr aer y mae plant
yn ei anadlu pan fyddant yn yr ysgol, fel bod gan y rheiny
sy’n gwneud penderfyniadau y wybodaeth angenrheidiol i ymateb
i lygredd aer.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Caerdydd a Phenarth
· Canol de Cymru